Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cyflymu'r economi carbon isel yng nghadarndir diwydiannol Cymru.

Ein gweledigaeth yw creu coridor buddsoddi ac arloesi gwyrdd i helpu i hybu mewnfuddsoddiad mawr, datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol a datgarboneiddio cenedlaethol.

Bydd y Porthladd Rhydd yn cefnogi cyfleusterau gweithgynhyrchu newydd ac uwchraddio seilwaith porthladdoedd mawr i gefnogi'r gwaith o gyflwyno gwynt alltraeth arnofiol (FLOW) yn y Môr Celtaidd.

Bydd hefyd yn rhan annatod o lywio dyfodol glanach yn seiliedig ar yr economi hydrogen, tanwyddau cynaliadwy, dal a storio carbon, dur glanach a logisteg carbon isel.

Partneriaid Celtic Freeport

Lleoliad

Aberdaugleddau a Phort Talbot

Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cwmpasu porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac mae'n rhychwantu datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer, peirianneg drom a'r diwydiant dur ar draws De-orllewin Cymru.

Tir

Dros 500 hectar wedi’u cysylltu â dau borthladd dŵr dwfn, sydd wrth galon tirwedd ddiwydiannol Cymru, wedi’u paratoi gan becyn cymhellion buddsoddi.

Cysylltedd

Parth ddiwydiannol fwyaf cysylltiedig Cymru sy'n cynnig cysylltedd cryf, rhwng y rheilffordd, y ffordd a'r môr i biblinellau trosglwyddo a thanwydd.

Sgiliau ac arloesedd

Cronfa etifeddiaeth leol sylweddol sy'n darparu cyfleoedd i atgyfnerthu sgiliau a dysgu sgiliau newydd i'r gweithlu presennol yn ogystal â rhoi hyfforddiant i bobl ifanc, ochr yn ochr â rhwydwaith arloesi sy'n dod ag academyddion, busnesau a chanolfannau rhagoriaeth ynghyd.

Lleoliad

Beth i'w ddisgwyl a pha bryd

Llinell amser y Porthladd Rhydd Celtaidd

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig. 

Newyddion a Digwyddiadau

Mae’r Celtic Freeport yn brosiect cyffrous a fydd yn datgloi’r cyfleoedd ehangaf posibl i Gymru drwy gyflymu arloesedd ac annog buddsoddiad sylweddol, wrth gyflymu sgiliau modern ar gyfer gwyrdd newydd...

Mae'r Celtic Freeport yn croesawu ei Brif Weithredwr parhaol cyntaf, Luciana Ciubotariu, i ddwyn ffrwyth y prosiect ail-ddiwydiannu, datgarboneiddio ac adfywio hanfodol hwn.  Bydd hi'n ymgymryd â'i swydd ym mis Mai 2024. Luciana ...